Aelodaeth
Opsiynau Aelodaeth
Mae Cymdeithas Ffilm Theatr Mwldan yn sefydliad a enillodd gwobrau sy’n gweithredu heb wneud elw sydd wedi ymrwymo i ddangos y ffilmiau newydd gorau o bedwar ban y byd. Cyniga’r cyfle i chi fwynhau nifer o ffilmiau ni fyddech fel arall wedi eu gweld yng ngorllewin Cymru. Mae CFfThM yn cyflwyno 30 dangosiad pob wythnos o fis Medi hyd at fis Mawrth pob blwyddyn. Mae dangosiadau CFfThM yn agored i bawb – talwch wrth y drws am bob ffilm (gan ddibynnu os oes seddau sydd ar gael) neu manteisiwch ar ddau becyn aelodaeth ffantastig sy’n cynnig gostyngiadau sylweddol.
Aelodaeth Lawn: Gallwch wneud un taliad syml wrth ymuno. Deg ar hugain noson yn y sinema, heb unrhyw daliad ychwanegol pan byddwch yn mynychu. Am bris cystadleuol o £57, mae’n llai na £2 y ffilm. Mae eich aelodaeth hefyd yn cynnwys yr opsiwn “TocynCynilo Ffilm”, gan arbed £1.30 pan ydych yn mynychu sinema gyffredin yn Theatr Mwldan.
Aelodaeth Gysylltiadol: Byddwch yn talu £20 a gallwch weld tri cyflwyniad gan y Gymdeithas Ffilm, heb unrhyw daliad ychwanegol. Yna, gan ddefnyddio’r opsiwn “TocynCynilo Ffilm”, byddwch yn arbed £1.30 oddi ar bris arferol tocyn ar gyfer ffilmiau y Gymdeithas Ffilm a’r sinema yn Theatr Mwldan. Os oes well gennych gymysgedd o Ffilmiau ‘Art House’ a Ffilmiau mawr Hollywood, yna dyma’r opsiwn i chi. Talwch gyda cherdyn, arian parod, neu siec a dylech dderbyn eich cerdyn wrth i chi adael y sinema, yn barod i arbed arian y tro nesaf i chi alw.
Associate Membership Joining Form Welsh
Y Manylion: Mae aelodaeth CFfThM yn parhau o’r dyddiad ymuno hyd at ddiwedd y tymor. Mae’r opsiwn TocynCynilo yn parhau am 12 mis o’r dyddiad ymuno. Ni chewch drosglwyddo’r aelodaeth ac nid oes modd derbyn ad-daliad arni. Dangoswch eich cerdyn aelodaeth pob tro byddwch yn dod i’r sinema er mwyn derbyn mynediad am ddim neu gyda gostyngiad. Mae TocynCynilo yn gynnig ar y cyd rhwng Theatr Mwldan a Chymdeithas Ffilm Theatr Mwldan.



