Skip Navigation

Cymraeg

Opsiynau Aelodaeth

Mae Cymdeithas Ffilm Theatr Mwldan yn sefydliad a enillodd gwobrau sy’n gweithredu heb wneud elw sydd wedi ymrwymo i ddangos y ffilmiau newydd gorau o bedwar ban y byd. Cyniga’r cyfle i chi fwynhau nifer o ffilmiau ni fyddech fel arall wedi eu gweld yng ngorllewin Cymru. Mae CFfThM yn cyflwyno 30 dangosiad pob wythnos o fis Medi hyd at fis Mawrth pob blwyddyn. Mae dangosiadau CFfThM yn agored i bawb – talwch wrth y drws am bob ffilm (gan ddibynnu os oes seddau sydd ar gael) neu manteisiwch ar ddau becyn aelodaeth ffantastig sy’n cynnig gostyngiadau sylweddol.

Aelodaeth Lawn

Gallwch wneud un taliad syml wrth ymuno. Deg ar hugain noson yn y sinema, heb unrhyw daliad ychwanegol pan byddwch yn mynychu. Am bris cystadleuol o £63, mae’n llai na £2 y ffilm. Mae eich aelodaeth hefyd yn cynnwys yr opsiwn “TocynCynilo Ffilm”, gan arbed £1.30 pan ydych yn mynychu sinema gyffredin yn Theatr Mwldan.

Aelodaeth Gysylltiadol

Byddwch yn talu £20 a gallwch weld tri cyflwyniad gan y Gymdeithas Ffilm, heb unrhyw daliad ychwanegol. Yna, gan ddefnyddio’r opsiwn “TocynCynilo Ffilm”, byddwch yn arbed £1.30 oddi ar bris arferol tocyn ar gyfer ffilmiau y Gymdeithas Ffilm a’r sinema yn Theatr Mwldan. Os oes well gennych gymysgedd o Ffilmiau ‘Art House’ a Ffilmiau mawr Hollywood, yna dyma’r opsiwn i chi. Talwch gyda cherdyn, arian parod, neu siec a dylech dderbyn eich cerdyn wrth i chi adael y sinema, yn barod i arbed arian y tro nesaf i chi alw.

Y Manylion

Mae aelodaeth CFfThM yn parhau o’r dyddiad ymuno hyd at ddiwedd y tymor. Mae’r opsiwn TocynCynilo yn parhau am 12 mis o’r dyddiad ymuno. Ni chewch drosglwyddo’r aelodaeth ac nid oes modd derbyn ad-daliad arni. Dangoswch eich cerdyn aelodaeth pob tro byddwch yn dod i’r sinema er mwyn derbyn mynediad am ddim neu gyda gostyngiad. Mae TocynCynilo yn gynnig ar y cyd rhwng Theatr Mwldan a Chymdeithas Ffilm Theatr Mwldan.

I ymuno â CFfThM cysylltwch â Swyddfa Docynnau Theatr Mwldan am ffurflen gais neu e-bostiwch tmfs@mwldan.co.uk